GwendaDAVIES17 Ebrill 2024
Hunodd yn dawel yn Hosbis Sant Cyndeyrn, Llanelwy, o Bryn Greon, Bylchau, yn 89 mlwydd oed.
Priod annwyl y diweddar Emlyn; mam a mam yng nghyfraith ymroddgar i Swsan a James, Ian a Sue, Carol a Glyn, Delyth a Malcolm, Rhona a Graham a Robin a Rhiannon; nain a hen-nain gariadus i'w wyrion a'i gor-wyrion; chwaer hoffus Ceridwen, Gwyneth a'r ddiweddar Miriam, a chwaer yng nghyfraith Beti, Glyn a Mair.
Angladd dydd Gwener, 3 Mai. Gwasanaeth yng Nghapel Coffa Henry Rees, Llansannan am 2 o'r gloch, ac yna'n breifat i'r teulu yn unig ym Mynwent y Capel.
Blodau teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, er cof am Gwenda, tuag at Hosbis Sant Cyndeyrn a Marie Curie.
R W Roberts a'i Fab, Gorffwysfa, Ffordd Ystrad, Dinbych, LL16 4RH. 01745 812935
Notify me with new activity on this notice